Rheolaeth Uwch

Caiff y Fyddin Brydeinig ei harwain gan Bennaeth y Staff Cyffredinol a'i Staff Cyffredinol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain.

Lleolir Cadbennaeth y Tirluoedd ym Mhencadlys y Tirluoedd ac mae'n uniongyrchol atebol i Bennaeth y Staff Cyffredinol am gyflenwi lluoedd sydd wedi'u hyfforddi'n briodol ac a all gymryd rhan mewn ymgyrchoedd sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

Cyflawnir hyn drwy bedair is-reolaeth:

Y Fyddin Faes
Rheolaeth dair seren a arweinir gan Gadlywydd y Fyddin Faes. Mae'n gyfrifol am gyflenwi a pharatoi lluoedd ar gyfer ymgyrchoedd sy'n mynd rhagddynt ac ymgyrchoedd i ddod er mwyn sicrhau llwyddiant ar faes y gad.

Rheolaeth Personél a Chymorth
Rheolaeth dair seren a arweinir gan y Dirprwy Gadfridog. Mae'n gyfrifol am lunio polisïau a chynlluniau personél a darparu gwasanaethau personél ynghyd â'r Sylfaen Gadarn i ategu'r broses o gynhyrchu adnoddau ar gyfer ymgyrchoedd.

Rheolaeth Datblygu a Hyfforddi Lluoedd
Rheolaeth dair seren a arweinir gan Gadlywydd Datblygu a Hyfforddi Lluoedd. Mae'n gyfrifol am hyfforddi unigolion a grwpiau, ynghyd â chysyniadau ac athrawiaeth, er mwyn manteisio i'r eithaf ar filwyr y Fyddin a sicrhau bod ymgyrchoedd yn llwyddo, nawr ac yn y dyfodol.

Cydreolaeth Hofrenyddion
Rheolaeth ddwy seren a sefydlwyd yn 1999 i ddwyn ynghyd hofrenyddion maes y gad y Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Awyrlu Brenhinol o dan un rheolaeth.

Strwythur Rheolaeth Uwch

Strwythur Rheolaeth Uwch

Mae strwythur rheoli'r Fyddin yn hierarchaidd, gydag Adrannau a'u Brigadau yn rheoli grwpiau o unedau.

O fewn y Brigadau hyn ceir Prif Unedau, o faint catrawd neu fataliwn a Mân Unedau llai sydd naill ai'n blatynau neu'n is-unedau o faint cwmni.

Mae'r holl unedau sy'n rhan o'r gwasanaeth naill ai'n perthyn i'r Fyddin Reolaidd (amser llawn) neu'r Fyddin Diriogaethol (rhan-amser), neu maent yn gyfuniad o is-unedau o'r ddwy.