Strwythur y Fyddin Brydeinig
Mae'r Fyddin Brydeinig yn cynnwys y Staff Cyffredinol a'r Fyddin Faes, a all gael ei hanfon i bob cwr o'r byd, a'r Lluoedd Rhanbarthol sy'n eu cefnogi, ynghyd ag elfennau ar y cyd sy'n gweithio gyda'r Llynges Frenhinol a'r Awyrlu Brenhinol.
Mae'r Fyddin yn cyflawni tasgau a gaiff eu rhoi iddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) sydd wedi'i hethol yn ddemocrataidd.
Ei phrif dasg yw helpu i amddiffyn buddiannau'r DU, sy'n cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gall hyn olygu bod angen gwasanaethu dramor fel rhan o Lu Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) neu unrhyw ymgyrch ryngwladol arall. Gall milwyr hefyd gymryd rhan yn ymgyrchoedd y Cenhedloedd Unedig (CU) a chael eu defnyddio mewn ymateb i argyfyngau eraill.
Y system gatrodol
Gofynion cynyddol y broses o ehangu'r ymerodraeth ynghyd â'r aneffeithlonrwydd a amlygwyd yn ystod Rhyfeloedd Napolean a arweiniodd at Ddiwygiadau Cardwell a Childers ar ddiwedd y 19eg ganrif. Y rhain a fu'n gyfrifol am greu'r Fyddin Brydeinig ar ei ffurf fodern ac am ddiffinio ei system gatrodol. Diwygiadau Haldane yn 1907 a greodd y Fyddin Diriogaethol sy'n dal i fodoli heddiw fel elfen wrth gefn wirfoddol y Fyddin.
Strwythur rheoli
Mae'r strwythur rheoli yn hierarchaidd gydag adrannau a brigadau yn gyfrifol am weinyddu grwpiau o unedau llai. Ceir Prif Unedau o faint catrawd neu fataliwn a mân unedau llai sydd naill ai'n blatynau neu'n is-unedau o faint cwmni. Mae'r holl unedau sy'n rhan o'r gwasanaeth naill ai'n perthyn i'r Fyddin Reolaidd (amser llawn) neu'r Fyddin Diriogaethol (rhan-amser), neu maent yn gyfuniad o is-unedau o'r ddwy.
Confensiynau enwi
Mae enwau unedau yn wahanol am resymau hanesyddol. Dim ond sefydliad gweinyddol a defodol yw catrawd troedfilwyr a gall gynnwys sawl bataliwn. Mae bataliwn troedfilwyr yn cyfateb i gatrawd marchfilwyr. Er mwyn cyflawni tasgau gweithredol, caiff grŵp brwydro ei sefydlu ar sail uned ymladd, a gefnogir gan unedau neu is-unedau o feysydd eraill. Un enghraifft o'r fath fyddai sgwadron o danciau ynghlwm wrth grŵp brwydro troedfilwyr arfog, ynghyd â byddin ragchwilio, magnelfa a chymorth peirianyddol.