5ed Adran

5 Division Map

Mae'r 5ed Adran yn gyfrifol am hyfforddi, lleoli a gweinyddu unedau'r Fyddin yng Nghymru, Canolbarth Lloegr ac East Anglia. Fel Adran Ranbarthol, hon yw un o brif unedau'r Fyddin sy'n helpu i ddarparu adnoddau milwrol i'r Llywodraeth a phobl Prydain.

Gan gwmpasu bron i draean o Brydain Fawr a chyda'i phencadlys yn yr Amwythig, Swydd Amwythig, mae ardal y 5ed Adran yn cynnwys bron i draean o boblogaeth y wlad.

Wrth i luoedd y DU gamu i oes lle mae angen cyflawni ymgyrchoedd alldeithiol, sy'n cynnwys wynebu heriau annisgwyl mewn rhannau anghysbell o'r byd, gofynnir am gymorth unedau'r 5ed Adran yn amlach o lawer.

Bu'r Adran o gymorth wrth baratoi, hyfforddi a lleoli unedau ar wasanaeth gweithredol ymhob un rhanbarth lle ceir gwrthdaro ar hyn o bryd, gan gynnwys Irac, Affganistan ac Ynysoedd Falkland.